amdanom ni

Creu'r Cwm Taf Morgannwg rydyn ni ei eisiau

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg yn dod â phartneriaid allweddol lleol o ardal Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf at ei gilydd. Pwrpas y Bwrdd yw gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal yma trwy gryfhau trefniadau gweithio ar y cyd.

Mae ein Hasesiad Lles, sydd wedi'i gyhoeddi yma gyda chyfres o adroddiadau trosolwg yn darparu crynodeb ynghylch lles yng Nghwm Taf Morgannwg. 

Mae ein Cynllun Lles yn nodi sut y byddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd i wella lles ledled y rhanbarth. 

Daeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr a Chwm Taf gynt at ei gilydd ym mis Mai 2023 er mwyn ffurfio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg.  Mae modd gweld rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gynt, gan gynnwys Asesiadau Lles, Cynlluniau Lle ac Adroddiadau Blynyddol trwy ddilyn y dolenni canlynol

...
 

Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae'n bosibl eich bod chi wedi clywed am y 'Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)', ond beth mae hi'n cwmpasu? Yn gryno, pwrpas y ddeddf yw gwella lles cymdeithasol, ariannol, amgylcheddol a diwylliannol pobl Cymru.

Dysgwch ragor am y Ddeddf.